Y Grŵp Trawsbleidiol ar Gerddoriaeth
Dydd Mercher, 16 Tachwedd 2022

Wyneb yn wyneb ac ar-lein drwy Teams 11.00 – 12.00
Ystafell Gynadledda A, Llawr Gwaelod, Tŷ Hywel, Caerdydd.

Cofnodion y Cyfarfod

 

Yn bresennol: Rhianon Passmore (RA) (Cadeirydd), Paul Carr (PC), Jeremy Miles AS (JM), John Pugsley (JP), Craig Roberts (CR), Heather Powell (HP), Helena Gaunt (HG), Mari Pritchard (MP), Susan Wood (SW) (Clerc), Lisa Tregale (LT), Peredur Owen Griffiths AS (POG),

Heledd Fychan AS

Yn cymryd rhan ar Microsoft Teams: Jodie Underhill (JU), Claire Jones (CJ), Beth House (BH), Rhian Hutchings (RH), Tom Kiehl (TK), Patricia Keir (PK), Andy Warnock (AW), Liam Evans-Ford (LEF), Hannah McCarthy (HM), Chris Evans (CE), Michelle James (MJ), Mike Jones (MJ), Charles Cooksley (CC), Emlyn Thomas (ET). Peter Francombe (PF)

 

John Lacy (JL) Kevin Price (KP), Stephen Williams (StW)

Eitem ar yr agenda 

Nodwyd/Trafodwyd/Cytunwyd/Cam Gweithredu 

Person(au) sy’n gyfrifol 

Ymddiheuriadau:

Richard Hallam, David Jackson, Richard Jones, Llyr Gruffydd, Rhys Evans, Delyth Jewell, 

 

1.       

 

Croeso a chyflwyniadau

Croesawodd RP bawb, a diolchodd i’r aelodau am ddod i’r cyfarfod, ac ategodd bwysigrwydd y Grŵp, yn enwedig ar ôl Covid-19, a pha mor hanfodol yw’r Grŵp Trawsbleidiol hwn ar gyfer cerddoriaeth er mwyn ymateb i’r hinsawdd heriol yr ydym ynddi. Diolchodd RP i Brifysgol De Cymru a'r Athro Paul Carr am ddod yn ysgrifenyddiaeth newydd i'r Grŵp hwn.

 



Croeso i Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg fel Cadeirydd a Craig Roberts, fel Is-Gadeirydd.

Cyflwynodd RP JM a diolchodd iddynt am fod yn bresennol, ynghyd â John Pugsley.
a. Cyflwyniad i'r Grŵp Trawsbleidiol ar Gerddoriaeth

 Rhoddodd JM gyflwyniad ar y dirwedd sy’n newid o fewn addysg cerddoriaeth, a heriau'r dyfodol. Diolchodd JM i RP am gynnull y Grŵp hwn, ac am ei ddycnwch personol a'i ffocws ar ymgyrchu dros gerddoriaeth. Rhoddodd drosolwg o’r Cynllun Addysg Cerddoriaeth a’i heriau o ran ymateb i’r pandemig, a gwaith gwerthfawr y Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol fel rhanddeiliad allweddol. Adroddodd ar fuddsoddiad sylweddol a bod cyllid newydd yn ei le i gefnogi dysgu ac addysgu cerddoriaeth yng Nghymru, sef £4.5 miliwn y flwyddyn, ac roedd yn cydnabod ei fod yn gam cyntaf gwych, gan ei fod yn gynnydd sylweddol yn enwedig yn yr hinsawdd bresennol.

b. Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Gerddorol
Ailadroddodd JM y Cynllun Cenedlaethol newydd a rhoi cerddoriaeth wrth galon bywyd ysgol. Cydnabu hefyd fod pwysau ariannol anhygoel, ac y dylid ystyried y cyllid yn y cyd-destun hwnnw hefyd. Dywedodd fod darn o waith ar y gweill gyda data sylfaenol ynddo, a fydd yn rhan o'r fframwaith gwerthuso, ac a fydd ar gael yn gynnar y flwyddyn nesaf.
c. Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru
Cyflwynodd JM Mari Pritchard (MP), y Cydlynydd Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol sydd newydd ei phenodi. Roedd RP o’r farn y byddai’n dda clywed mwy gan MP, a gwahoddodd hi i wneud cyflwyniad yn y cyfarfod nesaf i drafod y camau cyntaf i’r sector addysg cerddoriaeth weithio gyda’i gilydd i weithredu uchelgeisiau’r cynllun.

Cam i’w gymryd: SW i wahodd MP i roi cyflwyniad yn y cyfarfod nesaf

d. Cwestiynau i'r Gweinidog
Cafodd y Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Cerddoriaeth groeso cynnes fel cam cyntaf, gyda thrafodaeth ar werthuso a’i gyflwyno ar draws y dirwedd addysg ehangach. Nododd PC hefyd y dylai'r broses asesu gyfateb i'r newidiadau yn y Cynllun Cenedlaethol.

Pwysleisiwyd pwysigrwydd peidio â dyblygu adnoddau ac i wneud yn fawr o gyfleoedd ar gyfer cerddorion proffesiynol a thalent gerddorol yn ei ystyr ehangaf. Nododd JM bwysigrwydd y cynllun cyfathrebu a rhannodd RP farn y Grŵp o ran un llais ac ymuno â'r holl bartïon sydd â diddordeb i ddod yn gryfach a chydlynol ar gyfer y dyfodol.
Gadawodd JM, a JP y cyfarfod

(Gadawodd POG a HF y cyfarfod).

 

 

 














SW a MP

3.       

Adolygu blaenoriaethau’r Grŵp Trawsbleidiol ar Gerddoriaeth
Cadeiriodd RP drafodaeth eang ar flaenoriaethau’r Grŵp, - roedd y rhain yn themâu bras o ran asesu a llwybrau dilyniant y Model Cerddoriaeth Cenedlaethol (NMM) a monitro gweithrediad y Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol (NMS).

Trafodwyd y canlynol hefyd:

·         y posibilrwydd o greu un sefydliad ambarél neu un adnodd fel cyfrwng.

·         Cefnogaeth a mewnbwn cerddoriaeth gymunedol o fewn a rhwng y Model Cerddoriaeth Cenedlaethol a llesiant.

·         Potensial ffair/gŵyl gerddoriaeth a gaiff ei chynnal yn y Senedd i arddangos talent ledled Cymru.

·         Roedd llais ieuenctid ac anghenion hyfforddi i gyd yn feysydd a nodwyd fel blaenoriaethau posibl.

Cam i’w gymryd: RP i ddosbarthu rhai blaenoriaethau o'r trafodaethau, a hynny drwy e-bost.

CJ i siarad ag MP am y gwaith y mae'n ei wneud drwy ei chynllun, gan rannu arfer da.

 






RP a phawb

CJ a MP

4.       

Archwiliad Prifysgol De Cymru o Ddiwydiannau Cerddoriaeth Cymru
Adroddodd PC ar dri darn o waith ymchwil a gomisiynwyd, a diolchodd i Peter Francombe, Cymru Greadigol am gyfraniad gwerthfawr y sefydliad i’r broses. Roedd y gwaith yn cynnwys archwiliadau o fapio lleoliadau cerddoriaeth fyw a stiwdios recordio yng Nghymru. Roedd hyn yn seiliedig ar y costau economaidd cyn-Covid ac yna ar ôl Covid. Dosbarthodd PC yr adroddiadau ac maent ar gael ar-lein i gyfeirio atynt. Y prif ganfyddiadau yw bod yr economi Cerddoriaeth Gymreig wedi’i gogwyddo tuag at Gerddoriaeth Fyw (tua 47%), ac felly gyda chyfyngiadau Covid-19 dirywiodd y maes hwn o’r economi gerddoriaeth, ac mae’r adferiad yn araf iawn ac nid yw eto wedi dychwelyd i’r hyn oedd cyn y pandemig. Mae hyn ochr yn ochr â’r argyfwng costau byw, ac mae cerddorion BREXIT yn ei chael hi’n hynod o anodd a heriol yn y maes hwn.

 

 

 




5.       

Comisiynu gan y Grŵp Trawsbleidiol
Dywedodd RP wrth y Grŵp ei bod wedi cael gwybod nad oedd cyllideb ymchwil ganolog bellach y gall gael mynediad ati. Mae hi wedi ysgrifennu i gael eglurder ar y mater hwn, gan ei bod yn cydnabod y rhan hanfodol sydd gan ymchwil o ran arfogi penderfyniadau ein grwpiau. Mae'n fodlon defnyddio ei chyllideb hi i sicrhau bod y gwaith hwn yn digwydd. Gofynnodd i aelodau'r Grŵp anfon neges e-bost ati i roi gwybod am unrhyw unigolyn neu sefydliad a hoffai gymryd rhan mewn ymchwil, a gall hi wneud y cysylltiadau ar eu rhan.

Cam i’w gymryd: Pawb i anfon neges e-bost at RP i gymryd rhan mewn gweithgaredd ymchwil posibl.



 

 

 


Pawb a RP

 

6.       

Cynnig o ran cynnal nawdd y Grŵp Trawsbleidiol: Cerddoriaeth Cymru ar ôl Covid-19 – casglu asiantaethau, cymorth, rhwydweithiau, elusennau, undebau, cymdeithasau, addysg cerddoriaeth.

Cytunwyd y byddai’r Ffair Gerddoriaeth arfaethedig yn y Senedd yn darparu llwyfan ar gyfer arfer da a chydweithio posibl yn y dyfodol.





Blaenraglen waith  – ffrydiau gwaith a gweithgorau 2022/23.
Bydd RP yn dosbarthu gwybodaeth am y blaenoriaethau drwy e-bost, a bydd y rhain yn sail i'r ffrydiau gwaith. Aelodau'r Grŵp Trawsbleidiol i ddiwygio yn ôl y gofyn, a chytuno ar y blaenoriaethau. Mae CJ wedi mynegi diddordeb mewn gweithio ar faes ieuenctid, ac mae CE wedi mynegi diddordeb mewn cerddoriaeth gymunedol a cherddoriaeth fyw os cytunir arnynt fel ffrydiau gwaith ar gyfer y Grŵp Trawsbleidiol.

Cam i’w gymryd: Aelodau’r Grŵp Trawsbleidiol i wirfoddoli ac enwebu’u hunain ar gyfer bod yn aelodau o is-bwyllgorau blaenoriaeth.

 



 Pawb

8.       

 

Unrhyw faterion eraill